Pagina-afbeeldingen
PDF
ePub
[merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Y TRAETHODYDD.

Y BIBL, ATHRONIAETH, A GWYDDONIAETH.

NID oes dim yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail yn fwy na'r gallu sydd gan y blaenaf i wybod, a'r awydd sydd ynddo am wybod. Mor bell ag y gellir casglu, mae holl wybodaeth y creadur direswmos yw yn werth ei galw yn wybodaeth hefyd-yn gyfyngedig yn unig i'r hyn sydd yn cyffwrdd yn uniongyrchol â'i anghenion naturiol ef ei hun; yr ychydig ddygwyddiadau hyny y mae yn oddefol yn dyfod i gyfarfyddiad â hwynt, ac ydynt yn taraw gyda mesur mwy neu lai o rym yn erbyn ei fodolaeth ef ei hunan, tra y mae lle i gasglu fod pawb a phob peth arall yn bethau hollol ddibwys iddo a chanddo: y byd a'i holl drigolion a'i holl drysorau, y nefoedd a'i holl luoedd a'i holl ogoniant, yn bethau nad yw yn pryderu yn eu cylch, nad oes ynddo awydd gwybod dim am danynt, ac y mae yn ammheus a oes ganddo allu i wybod na meddwl dim gyda golwg arnynt. Mor fawr, mor annhraethol yw y gwahaniaeth rhwng y creadur hwn sydd yn pori y gwellt, a'r llall sydd yn ei arwain i'r preseb, ac yn ei ollwng i'r dwfr! Yn hwn, yn y dyn, yr ydym yn canfod o'r dechreu ryw chwilfrydedd nas gellir ei foddloni; awyddfryd y mae ei borthi yn anorfod yn ei gryfhâu; newyn y mae ei dòri yn sicr o'i ddyfnhâu; nes, o'r diwedd, wedi ychwanegu un cufydd at y llall, byd at fyd, cyfundraeth at gyfundraeth, gan ymgydnabyddu â hwynt, a'u troi yn wrthddrychau cyffredin ei sylw a'i astudiaeth, y ceir ef, gan ymchwydd angerddol yr uchelgais hwn sydd ynddo, yn cofleidio y diderfyn, ac yn beiddio gwneyd y cais i lyncu anfeidroldeb ei hunan mewn buddugoliaeth. Gyda mân gwestiynau difyrus y plentyn tair blwydd ynghylch ei deganau, y mae mynediad allan yr ysbryd hwn; y tu hwnt i eithafoedd y byd y mae ei amgylchiad; ymhell uwchlaw y bydoedd draw a'r nefoedd fry y mae ei fraich estynedig yn cyfeirio ei bŷs ac yn arwain ei llinell; a'r swm eithaf y mae yn ymagor am dano ydyw, "Duw tragywyddoldeb, Creawdwr cyrau y ddaear!" Y cyfryw ydyw y creadur uchaf ar y blaned fechan hon, yr hon, yn wir, sydd bron y leiaf o'r holl blanedau; y fath yw arglwydd anifeiliaid y maes, uchder llwch y byd. Y fath 1878.-1.

ydyw dyn. Byddai gofyn, Paham y cymer dyn arno y fath lafur blin? pa reswm sydd am yr aflonyddwch hwn sydd mor ddiorphwys, yr awydd yma sydd mor anferthol mewn creadur sydd, ymhob ystyr weledig, mor fychan a therfynol yn ei gysylltiadau? yn waith ofer; mor ofer ag a fyddai gofyn, Pa beth yw dyn? a phaham y mae y creadur hwn yn ddyn? paham nad yw yn rhywbeth heblaw ef ei hun? Oblegid y mae hyn yn angenrheidrwydd a berthyn i'r creadur hwn, yn "llafur a roddes Duw ar feibion dynion." Yn natur dyn y mae y sail iddo; dyn ei hunan yw y rheswm am dano. Fe dybir, yn wir, gan lawer, mai o'r holl gwestiynau yr hawddaf oll i'w ateb yw hwo-Pa beth yw dyn? Mewn pob traethawd ar Resymeg, cymerir, fel un o'r engreifftiau symlaf o ddeffiniad, y frawddeg, "Dyn sydd fod rhesymol; " neu, "Dyn sydd fod rhesymol a chyfrifol." Ond nid yw hyn, mewn gwirionedd, ond yn rhoddi i ni dri anhawsder yn lle un, neu, o leiaf, yn rhanu yr un yn dri ag y mae pob un o honynt yn ogyfled a'u gilydd, os nad â'r un cyfan. Bôd, Rheswm, Cyfrifoldeb; hyn yw dyn, hyn wedi eu huno â'u gilydd! Wele yma foroedd y mae dyn yn cael ei hunan ynddynt, ond nas gall byth fyned trwyddynt, na thu hwnt iddynt. Ac yn y dyfnder a'r ehangder hyn y mae y creadur bychan yn cael sylfaen i'w geisiadau beiddgar, a nerth i'w cario allan i fesnr mor helaeth. Fel y mae y golofn deneu, fain, o'r hylif yn y peiriant awyrawl neu ddyfrawl, tra yn gorphwys ar sylfaen ac arwynebedd eang a llydan, yn meddu gallu digon mawr i ỳru ac i wthio bron unrhyw bwysau i fyny bron i unrhyw uchder, felly y mae dyn, creadur mor eiddil ac mor egwan, tra yn gorphwys ar sylfeini mor ëang a llydain â rheswm a chyfrifoldeb, yn medru anfon ei ymchwiliadau mawrion i fyny i uchder mor aruthrol, fel nad oes yr un cwestiwn braidd ar nad yw ynildio rhyw gymaint o flaen gwasgiad a gwthiad ei feddwl cawraidd, ïe, hyd yn nôd pe byddai yn pwyso ar ei gefn dragywyddoldeb ac anfeidroldeb eu hunain ! Yn awr, wrth i ni gymeryd golwg ar lafur a gweithrediadau dyn yn y cymeriad hwn, yr ydym yn cael fod ganddo wrth natur ddwy ffynnonell o ba rai y mae yn bosibl iddo gasglu gwybodaeth. Un ydyw ei feddwl et ei hunan; y llall ydyw natur o'i amgylch. Dyma yn amlwg y ddau faes mawr sydd gan ddyn i gasglu oddiarnynt elfenau gwybodaeth naturiol. Y mae, pa fodd bynag, at y ddau hyn, drydydd, bellach, wedi ei ychwanegu, sef Datguddiad, yn ystyr mwyaf priodol y gair. Ac o'r tri hyn, mae yr olaf, mewn un olwg arno, ymhell uwchlaw y ddau eraill; ond mewn golwg arall yn sefyll rhyngddynt, yn gymaint a'i fod ei hun yn cwblhâu y blaenaf o honynt, ond yn cael ei gwblhâu gan y llall. Mae cynnwys meddwl dyn yn cael ei berffeithio gan ddatguddiad o feddwl Duw, tra y mae cynnwys y datguddiad Dwyfol, o un ochr iddo, yn cael ei gwblhâu a'i esbonio gan yr hyn y mae natur yn ei ddysgu. Mae y berthynas hon rhwng y tri â'u gilydd, o ran natur, yn gyson â'r berthynas mewn hanesyddiaeth y maent yn gymhariaethol yn ei dal y naill tuag at y llall; y lle mewn hanesiaeth a gwareiddiad sydd i ddysgeidiaeth y datguddiad Dwyfol, y meddwl dynol a'r greadigaeth elfenol,-i'r Bibl, i Athroniaeth, ac i Wyddoniaeth.

Mae yn hysbys y bu y ddau flaenaf am oesoedd lawer yn cael eu dysgu a'u hastudio bron yn hollol ar wahan ac yn annibynol ar eu gilydd. Tra y mae un genedl fechan, yn byw ar y goruwchnaturiol a'r

Dwyfol, yn gosod wrth eu gilydd yr hyn a ddatguddir iddi mewn hanes ac mewn geiriau, mewn gwyrthiau ac mewn prophwydoliaethau, ac felly yn ffurfio llyfr neu ysgrif-" Yr Ysgrythyr"-neu y rhan hono o'r Bibl a elwir yr Hen Destament, mae cenhedloedd eraill y byd, yn y dwyrain ac yn y gorllewin, yn llafurio yn galed uwchben y naturiol, y rhan hono o'r naturiol a elwir yn ddynol, gan geisio dwyn allan yr adnoddau a'r trysorau hyny sydd wedi eu cuddio o'r dechreu yn y meddwl dynol. Yr oedd athroniaeth, yn ystyr gyffredin y gair, y pryd hwnw yn ddyeithr hollol ymysg yr Iuddewon, tra yr oedd duwinyddiaeth, mewn ystyr briodol, yn beth anhysbys i'r Indiaid, y Rhuf. einiaid, a'r Groegiaid. Yr oedd y rhai olaf hyn, pa fodd bynag, yn enwedig yr Indiaid a'r Groegiaid, wedi codi mor uchel yn eu hymchwiliadau fel ag i gyffwrdd â rhai o'r cwestiynau uchaf mewn duwinyddiaeth ei hunan; trwy y dynol yr oeddynt wedi ymwthio ymhell i diriogaeth y Dwyfol, trwy y naturiol at y goruwchnaturiol. Mewn un ystyr, mae y pethau hyn, mae yn wir, yn tynu sylw dyn o angenrheidrwydd; yn gymaint felly, fel y mae yn bur sicr nad oes yr un dyn o feddwl dinam heb fod yn abl i synied yn eu cylch. Mae rhyw fath o dduw, ysbryd mewn rhyw wêdd, da a drwg mewn rhyw ffurf, yn bethau ag y mae pob meddwl dynol yn ymdeimlo â hwynt. Ond i'r hen athronwyr hyn, yr oedd y pethau a enwyd wedi dyfod yn bethau i'w deall a'u hamgyffred, yn bethau i'w trîn yn athronyddol, a'u dwyn gan y meddwl dynol o dan ddeddfau ac o fewn terfynau. Hyn oedd eu hamcan wrth eu trafod; ac yn yr amcan hwn, yn anorfod, y darfu iddynt fethu.

Amcan blaenaf athroniaeth yw cael gafael ar egwyddorion syml mewn bodolaeth amrywiol; darganfod undeb mewn gwahaniaeth ; dangos fel y mae yr Un yn cynnwys y llawer, a'r llïaws yn gorwedd dan yr Un; gwthio y tu cefn, neu godi uwchlaw pob amrywiaeth at yr un elfen wreiddiol sydd yn sylfaen i'r oll. Ac am yr amrywiaeth diderfyn y mae natur yn ei arddangos, mae pob dyn yn gallu yn hawdd ei dòri i lawr i ddau, ac yn ddiffael yn gwneyd hyny. Y ddau hyn ydynt, efe ei hunan, ar un llaw, a phob peth arall, ar y llall; Myfi, a nid-Myfi. Gellid tybied, ar yr olwg gyntaf, fod anghyfartaledd pwysigrwydd y ddau hyn mor fawr, fel mai ynfyd a disynwyr a fyddai eu dal gyferbyn â'u gilydd. Ac felly, yn wir, o ran eu gwerth a'u teilyngdod priodol a chymhariaethol, y rhaid edrych arnynt. Yr un pryd, pan ystyriom eu gwasanaeth ymarferol a'u pwysigrwydd perthynasol i bob dyn, rhaid addef fod yr anghyfartaledd yn cael ei golli. Mewn cylch, nid oes un rhan mwy pwysig na'r canolbwynt, ac eto y mae pob pwynt mor fychan fel y dywedir nad oes maintioli yn perthyn iddo o gwbl. Ac nid rhaid iddo, o ran hyny nis gall, fod nac yn fwy nac yn llai, pa un bynag ai yn ganolbwynt i fodrwy aur gron ai ynte i gwmpas ëang y ffurfafen fawr y gosodir ef. Os tybir, ymhellach, fod y cylch yn un diderfyn, nis gwaeth pa bwynt o'i fewn a gymerir yn ganolbwynt iddo. Felly y mae dyn hefyd, a phob dyn, pa mor fychan a dinôd bynag, yn rhwym o ddyfod iddo ei hunan yn ganolbwynt y cylch ehangfawr y mae natur yn ei ffurfio o'i gwmpas. Myfi, ynte, yn y canol, a nid-Myfi yn llanw holl faintioli yr amgylchedd, ydyw y rhaniad cyntaf y mae pob dyn yn ei wneyd ar y greadigaeth,

Wrth iddo gyfyngu ei sylw eto at y blaenaf o'r rhai hyn, mae yn cael ei fod ef ei hunan hefyd yn ddyblyg, a hyny mewn dwy ystyr. Mae ynddo feddwl a chorff, ac y mae ynddo dda a drwg. Ac heblaw hyn, mae yn fuan yn taflu yr un syniad dyblyg i'r hyn sydd y tu allan iddo, ac yno hefyd yn canfod meddwl a chorff, ysbryd a mater, yn gystal a da a drwg. Ceir fel hyn y ddau a wahaniaethwyd mor ddiweddar yn dyfod eto yn un â'u gilydd; Myfi a nid-Myfi yn dyfod yn un o ran sylwedd ac hefyd o ran ansawdd. Mae hyn, pa fodd bynag, yn cael ei effeithio ar draul dwyn i mewn amrywiaeth o natur arall y rhaid i'r meddwl ei olrhain i fyny i ryw undeb pellach.

A phan yn sefyll uwchben y pedwar hyn a enwyd, sef ysbryd a chorff, da a drwg, fe geir mai y dybiaeth gyntaf y mae athronwyr paganaidd yn gyffredin yn ei gwneyd yw, fod y ddau gwpwl hyn yn wreiddiol yn un a'u gilydd; fod da yn perthyn yn briodol i'r ysbryd, a drwg yn perthyn yn briodol i'r corff. A'r ddwy elfen hyn, y naill yn cynnwys ac yn gweithredu daioni, a'r llall yn cynnwys ac yn gweithredu drygioni, nis gellir eu cymmodi â'u gilydd. Mae yma, gan hyny, ddau Fôd angenrheidiol ac annibynol; sef Ysbryd, sydd o ran natur yn dda, a Mater, sydd o ran natur yn ddrwg. Ac yn hyn yr ydym yn cael sylfaen yr hyn a elwir yn Ddeuoliaeth (Dualism), yr hyn ydoedd un dybiaeth yr oedd y meddwl dynol yn gallu ei ffurfio am y naturiol a'r moesol.

Ond mae yn amlwg nas gellir aros yn y fan hyn, gan fod y gwaith heb ei orphen. Yr hyn yr oeddys yn chwilio am dano oedd, nid llawer ac nid dau, ond un. A beth bynag fydd y draul a'r canlyniad, mae yn rhaid i'r meddwl, rywsut, gael gweithio y ddau i un, troi y peth dyblyg hwn yn unplyg. Nodweddau yr Un hwn pan geir gafael arno fydd, ei fod uwchlaw pob amrywiaeth a lliosogrwydd, ynddo ei hunan yn un, yn dragywyddol, yn ddigyfnewid, yn syml, yn absolute; yn bod ynddo ei hunan o angenrheidrwydd, ac yn sylfaen a gwreiddyn pob bôd arall. O hono ef, gan hyny, y daeth pob peth; allan o hono ef yn llythyrenol y tarddodd pob ysbryd a phob defnydd, pob egwyddor a phob ansawdd, pob da a phob drwg. Y canlyniad yma, gan hyny, yw, mai Duw yw pob peth, fod pob peth yn Dduw; yr un peth yw enaid a chorff, ysbryd a mater; ïe, gwaeth na'r cwbl, mae da a drwg, o ran natur, yr un peth a'u gilydd. Yma yr ydym yn cael sylfaen yr hyn a elwir yn Olldduwiaeth (Pantheism), yr hon oedd y dybiaeth arall a osodid i fyny gan y rhai nad oedd y syniad am Ddeuoliaeth yn eu boddloni.

Yn awr, rhwng y ddau eithaf hyn, yr oedd athroniaeth baganaidd yn chwareu, mewn penbleth anobeithiol, heb allu gorphwys yn y naill dybiaeth na'r llall, ar adeg dyfodiad Cristionogaeth i'r byd. Y pryd hwnw fe daflwyd i lawr y mûr gwahân rhwng "Iuddew a Groegwr," a'r canlyniad o hyny fu, nid yn unig i'r ddau hyn gael eu "creu yn un dyn newydd," ond hefyd i'r ddwy ddysgeidiaeth, y Ddwyfol a'r ddynol, gael eu dwyn o'r diwedd yn dêg i gyffyrddiad â'u gilydd, y naill o dan ddylanwad y llall. Ac fel y dywedwyd o'r blaen, fe geir fod y flaenaf yn cwblhau yr olaf, y datguddiad nefol yn perffeithio athroniaeth ddaearol, yr hyn yr oedd y byd yn ei ddoethineb wedi methu ynddo, yn cael ei orphen a'i gwblhâu gan ddoethineb Duw.

Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd uchod, fe welir fod anhawsder mwyaf

« VorigeDoorgaan »