Pagina-afbeeldingen
PDF
ePub

weled eto unwaith wyneb ei Dad tragywyddol, ac am fyned adref i'w fynwes i orphwys mewn hêdd? Efe a ai trwyddynt ac a'u llosgai hwynt ynghyd. Mae y peth yn anmhosibl o bob tu.

Ac i geisio llonyddu y terfysg sydd, fe ddichon, weithiau, yn codi yn meddyliau rhai o'n darllenwyr, pan yn methu gweled mai felly y mae, ni a ddymunem osod yr ystyriaethau a ganlyn ger eu bron.

1. Mae y lle y mae y Bibl a'i gynnwys yn ei gymeryd i fyny yn gadael maes gwyddoniaeth yn rhydd i wyddoniaeth ei hunan i'w feddiannu mewn amser priodol. Mae teilyngdod pob llyfr a phob gwaith i'w farnu yn benaf wrth i ni gadw golwg ar yr amcan sydd iddo. Ac y mae yn sicr mai nid amcan y Bibl yw dysgu gwyddoniaeth. Fe'i ceir, mae yn wir, yn fynych yn sôn am natur ac am ei symudiadau, ond nid un amser i'r dyben o'u hesbonio o ran perthynas y naill ran â'r llall o honynt. Y mae, mewn gwirionedd yn sôn am natur, yn benaf oll, os nad yn gwbl oll, yn ei pherthynas a'r goruwchnaturiol, am y greadigaeth yn ei pherthynas â'r Creawdwr. Ac yn hyn, heiddiwn ddyweyd, fod dysgeidiaeth y Bibl yn gywir-yn fanwl a llythyrenol gywir. Ond beiddiwn ddyweyd yr un pryd, ei fod yn hollol gyson â'r cywirdeb manwl hwn, fod yr ysgrifenwyr, ïe, yr ysgrifenwyr ysbrydoledig, yn coleddu syniadau hollol gyfeiliornus am natur yn ei pherthynas â hi ei hunan; neu hwyrach mai mwy cyson â'r ystâd yr oeddynt ynddi fyddai dyweyd, nad oedd ganddynt syniadau clir o gwbl ar y berthynas hono. Yn gyffelyb fel yr oedd gyda'r iaith a ddefnyddid ganddynt. Fe fu amser pryd yr oedd brwdfrydedd dynion yn eu cario mor bell fel ag i haeru fod ysbrydoliaeth yr ysgrifenwyr sanctaidd yn rhagdybied perffeithrwydd llênyddol yn eu hysgrifeniadau, yn sicrwydd nas gallent wneyd camgymeriad mewn gramadeg, na throseddu rheolau cyfansoddiad da ac arddull wych. Yr oedd hyn yn amlwg yn cario zêl ymhell y tu hwnt i wybodaeth, ac ymhell tu hwnt i'r hyn sydd yn rhesymol. Yr oedd yn llawn ddigon i'r amean mewn golwg os oedd yr ysgrifenwyr yn gosod allan eu meddyliau mewn iaith oedd yn ddealladwy i'w darllenwyr cyffredin. A chan iddynt fod yn llwyddiannus mor bell a hyn, nid rhyw lawer gwaeth genym, os ceir allan nas gellir cyfrif eu cyfansoddiadau ymysg gweithiau clasurol yr iaith yr ysgrifenasant ynddi. Yr un modd am ffeithiau y greadigaeth: gan eu bod yn eu defnyddio i amcan uwch na hwynt eu hunain, mae yn llawn ddigon os ydynt wedi eu defnyddio felly yn y fath fodd ag i fod yn ddealladwy i'r darllenydd cyffredin,-os nad ydynt trwy eu camgymeriadau gyda golwg ar natur a'i deddfau ynddynt eu hunain, wedi gwneyd cam â'r gwirionedd am danynt yn eu perthynas â'r hyn sydd uwchlaw iddynt, a'r goruwchnaturiol. Mae yr holl diriogaeth y tu allan i hyn wedi ei gadael yn rhydd ac yn agored i bwy bynag sydd yn meddu gallu i'w meddiannu a medr i'w hegluro.

2. Mae y lle a berthyn yn arbenig i wyddoniaeth hefyd yn gadael maes priodol datguddiad heb gyffwrdd âg ef. Testun mawr gwyddoniaeth yw natur a'i deddfau-deddfau natur Testun mawr y Bibl yw Awdwr natur a Gosodwr cyfraith-y Creawdwr a'r Deddfroddwr. Maes y blaenaf yw parhad a chyfnewidiadan bodolaeth; maes yr olaf yw dechreuad a sylfaen bodolaeth. Fe all y duwinydd a'r gwyddonydd, mae yn wir, gydgyfarfod yn yr un person, fel y maent yn fynych yn

gwneyd. Ond y mae yr un dyn hwnw, yn y ddau gymeriad, yn trîn dau ddosbarth o gwestiynau hollol wahanol i'w gilydd. O un tu, y cwestiwn mawr yw, Pa beth sydd yn natur? Y cwestiwn mawr o'r tu arall yw, Pa beth sydd cyn natur ac uwchlaw iddi? Ac y mae yn amlwg fod unrhyw ddysgeidiaeth resymol ar y blaenaf yn gadael yr olaf yn hollol agored. Oblegid gan mai natur a'i deddfau ydyw maes priodol ac unig faes gwyddoniaeth, mae yr hyn sydd uwchlaw natur, neu yr hyn sydd o'i blaen, ïe, hyd yn nôd y cwestiwn, A oes dim yn bod uwchlaw neu o flaen natur, neu peidio? yn hollol y tu allan a thu hwnt i'w thiriogaeth, fel nad all ac nad yw yn perthyn iddi wybod na dysgu dim gyda golwg arno. Yr ateb parod a ymgynnyg i feddwl llawer un o'n darllenwyr i hyn, ni a wyddom, yw, er nad yw gwyddoniaeth yn dysgu dim yn uniongyrchol ynghylch y goruwchnaturiol, eto fod gwersi pwysig gyda golwg arno yn codi ar unwaith oddiar yr hyn a ddatguddir ganddi am natur; ein bod, oddiwrth yr hyn a ymddengys yn y byd gweledig, yn tynu casgliadau ynghylch y byd anweledig. Ac y mae hyn yn ddigon gwir hefyd; ond, cofier, nid gwyddoniaeth yw hyn mwyach, ac nid y gwyddonydd sydd yn gwneyd y gwaith y sonir am dano. Yr ydym ni yn credu fod yn bosibl i ddyn wneyd hyn, a hyny am ein bod yn credu nad yw y gair gwyddonydd yn gyfled â'r gair dyn, ac mai nid gwyddoniaeth yw swm pob gwybodaeth. Fe dybir yn y frawddeg, "gweled yr anweledig," fod gan yr edrychydd ddau lygad, neu lygaid o ddau fath, a bod y naill yn canfod yr hyn nad yw Ꭹ Ilall yn ei ganfod, ac nas gall ei ganfod, tra mai yr un edrychydd sydd yn gweled yr oll. Mae gan ddyn lawer o synwyrau trwy ba rai y mae yn canfod ymddangosiadau y greadigaeth. Ac y mae yn ddïau fod y clyw, lawer tro, yn cael mantais trwy y golwg, a'r golwg yn cael ei gynnorthwyo gan y teimlad; ond sicr yw nas gall y llygad glywed, ac mai nid â'r dwylaw y gellir archwaethu. Gwrthddrych astudiaeth y gwyddonydd yw yr ymddangosiadau hyny a ganfyddir gan yr amrywiol synwyrau hyn. Llygad i weled y pethau hyn yn eu perthynas â'u gilydd yn unig sydd ganddo; beth bynag sydd o natur wahanol iddynt, nis gall gwyddoniaeth eu darganfod, mwy nag y gall y llaw weled a'r glust arogli. Bôst y gwyddonydd yw ei fod yn ymwneyd â ffeithiau, ac nad yw yn myned y tu allan iddynt nac uwchlaw iddynt. Mae hyn, ebe efe, yn rhoddi iddo wybodaeth gadarnhäol ("positive knowledge"). Tra y ceidw o fewn cylch ffeithiau, mae ei draed ar graig, gan fod ganddo wybodaeth gadarnhaol. Pa un bynag a yw hyny yn werth bostio llawer yn ei gylch ai peidio, a thra yn gwadu yn benderfynol hawl unig y gwyddonydd i arfer y gair "cadernid" neu " sicrwydd gyda golwg ar ei ddysgeidiaeth, yr ydym yn addef gyda phob parodrwydd ei fod yn deall yn dda y terfynau a berthyn i'w diriogaeth, a da fyddai genym pe byddai rai gweithiau yn fwy gofalus i gadw y tu fewn iddynt. A'i addefiad ef ei hun yr ydym yn cyttuno, mai â natur yn unig y mae a wnelo, mai y greadigaeth a'i deddfau ydyw yr unig wrthddrychau y gall y llygad sydd ganddo eu gweled, ac o'i enau ei hun yr ydym yn ei farnu, fod pob peth sydd uwchlaw natur y tu allan i derfynau ei astudiaeth; nas gall, fel gwyddonydd, wybod dim am dano, ac nad yw yn perthyn iddo ddysgu dim yn ei gylch. Nis gall ddysgu dim yn gadarnhaol gyda golwg arno; ac, yn gyffredin, nid yw yn

[ocr errors]

proffesu gwneyd hyny. Fe'i ceir yn fynych, pa fodd bynag, yn cynnyg i ni lawer o natur nacaol am dano. Ac yn hyn y mae weithiau yn myned mor bell fel ag i wadu bodolaeth y goruwch naturiol o gwbl,-y gwyddonydd yn gwneyd hyn, y dyn sydd yn ymffrostio fod ei holl olygon wedi eu troi unwaith am byth at ddygwyddiadau y greadigaeth, ac nad yw yn astudio dim, ac na wna, er gwaethaf neb pwy bynag, astudio dim ond natur a'i deddfau ! "Y ffôl, tra y tawo, a gyfrifir yn ddoeth;" ond am y dall, neu yr hwn a gauo ei lygaid rhag gweled, ac sydd, oblegid hyny, yn gwadu fod dim gwrthddrychau yn bôd i neb arall eu gweled, mae doethineb y dyn hwnw yn amlwg wedi myned yn ynfydrwydd. Mae ambell greadur yn gallu byw yn y dwfr ac ar y tir, yn nyfnder môr neu yn uchder awyr, gan fod ganddo esgyll a chèn at ei wasanaeth yn y dyfroedd odditan y nefoedd, ac hefyd adenydd i'w gario at yr hyn sydd uwchlaw y dyfroedd yn y nefoedd ei hunan. Ac i hwn mae y ddau fywyd yn adnabyddus. Mae y rhan fwyaf o bysgod y môr, pa fodd bynag, yn amddifad o adenydd, ac eraill, fe ddichon, yn hwyrfrydig i wneyd defnydd o honynt, os ydynt ganddynt. Y môr mawr yw unig diriogaeth y rhai hyn; nis gallant godi uwchlaw iddo, na chanfod dim sydd y tu allan iddo. Nid iddynt hwy gan hyny y perthyn y gwaith o ddysgu ac athrawiaethu ynghylch y ffurfafen sydd oddiar y dyfroedd, a'r dyfroedd sydd oddiar hyny, a'r nefoedd a'u lluoedd sydd eto yn ymddyrchafu fyth yn uwch ac ymhellach. Ac yn enwedig, byddai yn ddisynwyr, ac ni a dybiem islaw anrhydedd pysgodyn, iddo geisio perswadio ei "gyd-greaduriaid" nad oes dim yn bod uwchlaw na thu hwnt i ehangder y dyfroedd, oblegid nad yw efe yn gallu myned na gweled y tu allan i'w terfynau. Mae gwyddoniaeth yn fôr y mae rhai dynion, wedi unwaith neidio iddo, yn dra anfoddlawn i godi byth uwchlaw iddo mwyach, Yn ei gregyn celyd y carant fyw, ac ar ei wymon dyfrllyd y mynant ymborthi. Me yna bosibl, pa fodd bynag, er fod y cefnfor hwn yn ddigon ëang iddynt hwy i symud a bod ynddo, y gall fod rhywbeth arall mwy ac uwch nag ef yn bod. O leiaf, nid yw fod un yn tòri ei adenydd ar waelod môr, neu gau ei lygaid yn nghanol craig, ddim yn profi nad oes awyr uwchlaw y dwfr, a nefoedd uwchlaw y mynydd eto yn bod i bwy bynag sydd yn dewis gwneyd defnydd o'i adenydd, ac o'i lygaid i gael golwg arnynt. Mae y goruwchnaturiol yn anweledig, meddir. Felly y mae i'r llygad gwyddonawl. Ond cofier, mae calon yn gweled ymhellach na llygad; mae enaid yn fwy na natur, dyn yn fwy na gwyddonydd, yr ysbrydol yn ehangach a mwy estynedig na'r anianol. Mae ysbryd mewn dyn, ac efe a ymwrola fel un yn gweled yr anweledig.

3. Mae y ddwy ddysgeidiaeth hyn, sydd fel y gwelir yn sefyll ar sylfeini gwahanol, yn rhwym o'r diwedd o droi allan o wasanaeth i'w gilydd. Ni raid pryderu ynghylch hyn. Megys y mae y meddwl dynol, fel y dywedwyd uchod, yn ei ymchwiliadau cyntefig iddo ei hunan ac i natur fel y mae yn dwyn delw yr ysbrydol a'r moesol, eisoes wedi derbyn cyfnerthiad arbenig oddiwrth y datguddiad dwyfol; felly y mae yr adeg bellach wedi dechreu, pryd y rhaid i'r ddyled hon i ryw fesur gael ei thalu yn ol, trwy fod y datguddiad dwyfol am natur yn ei gwêdd fwyaf elfenol ac anianol, yn cael ei egluro, ei esbonio, a'i gwblhâu gan darganfyddiadau gwyddoniaeth ynghylch ansawdd, galluoedd, gweith

rediadau, a deddfau natur. Hyn ynddo ei hunan yw y peth mwyaf rhesymol i'w ddysgwyl; a hyn hefyd, mae yn ymddangos i ni yn amlwg, yw yr hyn y mae profiad eisoes yn ein calonogi i edrych ymlaen ato. Gosoder geiriau cryfion a beiddgar y Bibl a'r ychydig eiriau y mae gwyddoniaeth ar hyn o bryd yn gallu eu swnio gyda rhyw gymaint o hyder gyferbyn â'u gilydd; ac er syndod, nid ydynt mewn un sill yn gwrthddyweyd eu gilydd. Mae y bennod gyntaf o'r llyfr ysgrifenedig a'r ddalen gyntaf yn y llyfr crëedig yn ein cario ni o adnod i adnod, ac o" ddydd "i" ddydd," dros yr un golygfeydd, a hyny yn yr un drefn. Ac megys y dywedir yn Genesis, ac y cadarnhëir gan science, fod "goleuni" yn bod cyn creu haul, digon o oleuni i wneyd dydd er nad digon i wneyd dydd goleu; felly hefyd y gellir dyweyd fod goleuni ar hanes y greadigaeth hefyd yn bod cyn cyfodi haul gwyddoniaeth; digon o oleuni i ni allu gweled fod parotoad eang a manwl wedi bod ar y ddaear a'r nefoedd cyn tarddiad allan egin na llysiau, na phrenau yn dwyn ffrwyth; fod y dyfroedd wedi heigio ymlusgiaid byw, a bod ehediaid yn ehedeg uwch y ddaear cyn i'r anifail wneyd ei ymddangosiad ar y ddaear; ac mai nid cyn bod yr ymlusgiad a'r anifail a'r bwystfil wedi bod am dymmor, yn arwain y fath fywyd ag oedd o ran natur ac agwedd yn ddiau mewn cydgordiad â gwylltineb aflywodraethus y blaned ar y pryd, y daeth i'w mysg un cymhwys i fod yn arglwydd arnynt oll: "dyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain." Ac os ydyw y goleuni erbyn hyn wedi dyfod yn ddigon cryf fel y mae hŷd y "dyddiau" yn dyfod i ryw fesur yn fwy amlwg, ac yr ydym yn medru olrhain eu dygwyddiadau yn fwy manwl, os ydym bellach yn medru dilyn ôl traed yr aderyn yn y graig, yn gallu treiglo y maen oddiar ddrŵs bedd yr anifail, mesur esgeiriau anhywaith ac ochrau afrosgo y bwystfil, pwy na lawenychai oblegid hyny? Pwy na ddiolchai am y goleuni, o ba le bynag y tardd, sydd yn ein galluogi i ddeall yn fwy cywir a chyflawn "ymadroddion Duw ymddiriedwyd i ni; ïe, hyd yn nôd pe byddai hyny ar y draul o osod i fyny gyhuddiad o anwybodaeth dwfn yn erbyn eu hysgrifenwyr ar y dechreu, yn gystal â'r rhai fuont am oesoedd yn eu darllen ac yn ceisio eu hesbonio. Fel hyn y ceir gweled yma hefyd ryw ddydd y cylch yn cael ei orphen; mewn rhan yn cael ei olrhain trwy gymhorth datguddiad dwyfol, ond mewn rhan bellach trwy ymchwiliadau a darganfyddiadau y meddwl dynol ei hunan; y Bibl felly, yn ei ddysgeidiaeth am natur, yn cael ei gwblhâu gan Wyddoniaeth.

Cyn terfynu, carem osod ein darllenwyr, yn enwedig y rhai ieuainc o honynt, ar eu gwyliadwriaeth rhag cael eu camarwain gan yr ansicrwydd a'r aneglurder sydd yn perthyn i rai geiriau pan yn cael eu 'defn

yddio mewn cysylltiad â gwyddoniaeth. Mae y gair "deddf' yn

esiampl nodedig o'r dosbarth hwn o eiriau. Mae dynion yn fynych fel pe yn tybied, os gallant ddangos fod rhyw beth yn cymeryd lle yn ol deddf, eu bod wedi penderfynu y cwbl yn ei gylch; a chymaint yw y niwl a'r mawrhydi tybiedig sydd wedi ymwisgo o gwmpas y peth diafael hwn," deddf," fel yr ydym weithiau yn ei chael yn anhawdd i ymrydd. hâu oddiwrth y teimlad ein bod yma o'r diwedd wedi cyrhaedd y terfyn, a bod yr holl gwestiwn wedi ei gau i fyny gyda'r ymadrodd buddugoliaethus, Mae y peth yn ddeddf! Ond cyn y gall hyn fod, mae yn rhaid fod y peth yma yn rhywbeth gwahanol i'r dygwyddiad ei hunan ac uwchlaw iddo; yn gymaint uwchlaw iddo fel y mae yn achos o hóno. Mae yr

amgylchiad yn cymeryd lle trwy ddeddf; hyny yw, deddf sydd yn achos o hóno, wedi rhoi bod iddo. Ond ai dyna feddwl prïodol a chyfreithlawn y gair deddf yn y cysylltiad hwn? Mae yn ymddangos i ni yn eglur iawn nad e; a bod yma gymysgiad difrodus ar ddau syniad hollol wahanol i'w gilydd yn yr haeriad a enwyd. Wrth ddeddfau natur y golygir yn briodol trefn natur; y modd y mae natur yn gweithredu; nid yr hyn sydd yn myned o'r blaen ac yn achos o'r symudiadau, ond yr hyn sydd yn dyfod ar ol fel canlyniad iddynt. Mewn gair, mae deddf natur, nid yn achos o natur, ond yn effaith o hóni. Er engraifft, fe ddywedir ei bod yn ddeddf fod y planedau yn troi o gwmpas yr haul mewn amser penodol. Ac felly y mae; ond y meddwl yn amlwg yw, nid eu bod yn troi felly am fod hyny yn ddeddf, ond fod hyn yn ddeddf am eu bod hwy felly yn troi. Nid y ddeddf sydd yn rhoi bod i'r symudiadau rheolaidd, ond rheoleidd-dra y symudiadau sydd yn rhoi bod i'r ddeddf. Mae y rheswm am y symudiadau, gan hyny, yr achos o honynt, yn aros eto heb gyffwrdd âg ef. Ond hyd yn nôd pe byddai y syniad arall yn gywir, yr hyn nid yw, sef bod y deddfau hyn yn achos o symudiadau a gweithrediadau natur; byddai yr holl anhawsder yn aros wedi hyny heb ei symud. Mae sŵn brawychus a ffrostfawr mewn brawddegau fel y rhai hyn. "Mae holl symudiadau a holl gyfnewidiadau natur drwyddi yn cael eu dwyn oddiamgylch gan ddeddfau, yn cael eu hachosi gan ddeddfau; ac y mae y deddfau hyny yn anhyblyg ac anghyfnewidiol; nis gallant beidio bod na pheidio gweithredu. Canys haws yw i nef a daear fyned heibio, neu i bob dyn fod yn gelwyddog, nag i un iod nac un tipyn o'r deddfau hyn ballu." O flaen haeriadau awdurdodol fel y rhai hyn, ein lle yn ddiau yw myned yn fud a pheidio agor ein genau mwyach. Ond ysgatfydd y mae gan y dyn doeth blentyn saith mlwydd oed wrth ei glun, yn gwrandaw arno yn gwneyd y datganiad. Ac os felly, pa un ai tewi a wnawn ni ai peidio, mae y bachgenyn hwn yn bur sicr o osod ei dad dysgedig o dan arholiad buan, a'i roi mewn penbleth nid bychan gyda'r cwestiwn parod ac anorfod, pa beth sydd wedi dwyn oddiamgylch ac achosi y deddfau hyn eu hunain? Oblegid byddai yr un mor rhesymol credu fod y dygwyddiadau eu hunain yn bod o honynt eu hunain, heb ddeddfau y tu cefn iddynt, ag ydyw credu fod y deddfau hyn yn bod o honynt eu hunain heb ddim y tu cefn iddynt hwy yn achos o honynt. Os amgen, o ba le mae gan y deddfau hyn y fraint a'r rhagoriaeth arbenig hon o fod yn hunangynnaliol ac annibynol, yn anad neb na dim arall? Mae yma, mewn gwirionedd, gamgymeriad o bwys dirfawr wedi codi oddiar fod dau syniad hollol wahanol i'w gilydd yn cael eu cyd-gymysgu â'u gilydd. Yn anfwriadol os nad yn ddiarwybod i ni ein hunain, mae yr hyn sydd i ni yn ddiderfyn, yn cael ei gamgymeryd am yr hyn sydd ynddo ei hunan yn ddiderfyn. Mae cyfnewidiadau cyffelyb i hwn yn cael eu gwneyd yn fynych mewn ymchwiliadau mawrion i'r byd anianol. Er engraifft, rhoddir yn dasg gan y meistr i'r plentyn ar iddo symio i fyny gyfres o ffigyrau wedi eu hestyn allan yn ddiderfyn (adinfinitum). Ac nid yw y plentyn yn cael un anhawsder i wneyd hyny. Ond byddai yn gamsynied mawr i neb dybied fod rhifyddiaeth yn rhoi i ni ffordd na gallu i fesur yr anfesurol, i roi terfyn i'r diderfyn. Y meddwl yw, fod y gyfres wedi ei chario mor bell, fel y mae y swm a wneir i fyny ganddi, yn ymarferol, yn ateb y dyben yn ogystal a phe byddai wedi ei gwneyd

« VorigeDoorgaan »