Pagina-afbeeldingen
PDF
ePub
[graphic][graphic][merged small][merged small][graphic][graphic][merged small][merged small][merged small]
[graphic][merged small][merged small][graphic][merged small][merged small]

(Cyrhaedded yr Ystum ei berffeithrwydd ar y geiriau ydynt mewn llythyrenau italaidd. Wrth symud o un ystum i'r llall, dilyner yn ofalus gyfeiriad y llinellau-y "dotted lines").

Mae yn y dyfyniadau blaenorol gyfuniad o ystumiau arddangosol, dullweddol, lleol, a phwysleisiol, a gwasanaethant fel esiamplau o saflead ac o8go y corff, y traed, y dwylaw, a'r wyneb; a chyfeiriad y llygaid.

ESIAMPLAU ETO.

1. "No fearing, no doubting thy soldier shall know,
When here stands his country, and yonder his foe;
One look on the bright sun, one prayer to the sky,
One glance where our banner waves glorious on high,
Then on, as the young lion bounds to his prey;
Let the sword flash on high, fling the scabbard away,
Roll on, like the thunderbolt over the plain;
We come back in glory, or we come not again.

2.

"Yn mlaen i rywle hwyliai'r llong,
A'r tònau'n diflin ymladd,

Heb unrhyw arwydd, ddydd na nos,
Eu bod yn agos porthladd;
Fel taith plant Israel, pan yn ffoi
O'r Aifft i Ganaan ddedwydd,
Ni wyddent hwythau p'le i fyn'd,
Dybynent ar eu Llywydd."

RHAN IV.

DARLLEN Y BEIBL.

1.-Pwysigrwydd y Gwaitb.

GYDA phriodoldeb y gelwir y Beibl yn Llyfr y llyfrau. Efe yw y mwyaf gwerthfawr o'r holl gyfrolau costus a addurnant lyfrgelloedd yr oes oleu, chwaethus, a chyfoethog hon. Mae dau eithafoedd y dylid eu gochelyd wrth ymdrin â'r llyfr rhagorol hwn: (1) Gochelyd ei ystyried yn rhy aruchel a sanctaidd i gael ei farnu a'i ddefnyddio gan ddynion; (2) Gochelyd rhag ei farnu a'i drafod mewn dull neu fodd ag a duedda at leihau ein parch iddo, a'n hymddiried ynddo.

66

Gwahaniaetha oddiwrth, a rhagora ar, bob llyfr arall mewn rhai ystyriaethau, tra mewn ystyriaethau ereill gwnaethpwyd ef yn gyffelyb i'w frodyr." Fel y mae yn gyfansoddiad llenyddol, yn grynhoad o amryw wybodaethau, ac yn gorfforiad o ddrychfeddyliau, daw o dan warogaeth i'r un deddfau a llyfrau ereill, a dylai hefyd gael yr un rhyddid a mantais a llyfrau ereill i drosglwyddo ei gynwysiad yn eglur, dealladwy, ac effeithiol i'r neb a fyno wrando. Dylai gael y parch o iawn-ddarlleniad hyd yn nod os na chredir yn ei egwyddorion.

2.-Rbai Camsyniadau.

Nid priodol yw ffugio sancteiddrwydd mewn tôn leisiol a gwep arwynebol, wrth ddarllen y Beibl, "megys y mae arfer rhai." Esiampl briodol geir yn Nehemiah viii. 8: "A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yn nghyfraith Duw; gan osod y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen." Dylid amcanu at ddarllen mor naturiol ac eglur fel na

chaffo neb drafferth i ddeall yr ystyr, ac na byddo anghen am i'r darllenydd adrodd penod faith o'i gyfansoddiad ei hun fel esboniad ar benod fèr o'r Beibl. Lle byddo yr arferiad o esbonio yn helaeth wrth ddarllen y benod, y perygl yw i eiriau dyn gael mwy o le a sylw na geiriau Duw. Rhodder mantais i'r Gair. Na arferer gwisgo am dano ddiwyg ddynol. Os bydd rhyw air, neu ymadrodd annghyfieithiedig, neu rhyw gyfeiriad at le neu arferiad estronol, yn y benod, gellir, a gwell yw, rhoddi "gair o eglurhad" byr a chynwysfawr ar y cyfryw, "fel y deallent wrth ddarllen."

3.-Elfenau.

Mae darlleniad cymeradwy o'r Ysgrythyrau yn cynwys yr elfenau canlynol:

1.—AMGYFFREDIAD CYWIR O'R MEDDYLIAU.

Mae hyn yn golygu mwy na deall athrawiaeth yr ymadrodd. Cynwysa wybodaeth o ansawdd a theithi gwahaniaethol y geiriau a ddarllenir. Hanfod llwyddiant esboniwr yw deall y pwnc a esbonir. A rhaid i'r darllenwr hefyd ddeall y rhagor sydd rhwng adnod ddesgrifiadol ac adnod addoliadol neu addysgol, &c.

2.—YSTYRIAETH BRIODOL O SAFLE DARLLENWR.

(a) Fel gweinyddwr ystad neu etifeddiaeth un arall. (b) Fel iawn-gyfranwr Gair y Bywyd i ereill.

Mewn geiriau ereill :—

(1) Ei safle yn ei berthynas â'r Awdwr.

(2) Ei safle yn ei berthynas â'r gwrandawr.

Pe ymgymerai pregethwr â bod yn gymun-weinyddwr ewyllys rhyw wr cyfoethog fyddai wedi gadael ystad eang i gael ei rhanu rhwng pwy bynag a allai brofi ei hawl iddi yn ol y telerau, diau y gofalai y gweinyddwr am hawliau y

« VorigeDoorgaan »