3. O engyl sanctaidd, cuddiwch eich wynebau. 4. O weinidogion gras, amddiffynwch ni. 5. Bydded y fath deimlad annynol yn mhell o'n calonau ni. 6. Rhwygwyd y wlad gan yr ymrysonfa. 7. Tarth y boreu a wasgerir gan yr haul. 8. "Mawreddus a rhyfeddol yw Dy weithredoedd." 66 9. Tir, tir, hwre, hwre," gwaeddai y morwyr llon. 10. "Gogoniant yn y goruchafion." Y Ddwy Law yn nghyd, y cledrau at eu gilydd, megys yn y darlun, a ddefnyddir yn aml mewn gweddi ac erfyniad. Er engraifft: 1. Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd, Arglwydd Dduw Sabbaoth. 2. "Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol," &c. Arddangosir cynhyrfiad ysbryd ac angerddoldeb teimlad trwy blethu y dwylaw. Gellir eu dyrchafu, eu hestyn allan, eu tynu at y corff, neu eu darostwng, yn ol galwad y syniadau. Mae eisieu ymarferiad maith a gofalus, er mwyn gallu symud yn naturiol trwy y ffurfiau cynhyrfiol o fynegiant. ESIAMPLAU. 1. "O Arglwydd, na cherydda fi yn Dy ddig." 2. "Er mwyn y nefoedd, arbed fi." 3. Arglwydd Iesu, maddeu fy mawr ddrygioni. 4. "O fy mab Absalom! fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab." 6.-Y Mynegfys. Mae gwasanaeth y Bys Mynegol yn amrywiol iawn, ac y mae meistrolaeth o'i ddefnyddiad yn werth ymdrech egniol a pharhaus. Tra mae y Llaw Agored yn eangu y syniad, mae y Mynegfys yn ei gyfyngu. Er engraifft :— Edrychwn dros yr holl faes (Llaw Agored). Sylwn yn fanwl ar y tý hwn (Mynegfys). "Un ohonoch chwi a'm bradycha I" (Llaw Agored). Priodol defnyddio y Mynegfys gyda syniadau Dynodiadol, Gwahaniaethol, Gwaradwyddol, Gwatwarol, Rhybuddiol, Gwaharddol, Awdurdodol, Pwysleisiol eithafol, &c., &c. Gocheler rhag defnyddio y Mynegfys fel pe na fyddai unrhyw ran arall o'r llaw na'r corff at alwad. Gocheler rhag efelychu y gwendid hwn a welir weithiau mewn dynion enwog. Mae yr hyn sydd yn wendid yn ol y rheolau, ac yn drosedd yn ol y deddfau, yn aml yn profi yn arf nerthol yn llaw Athrylith. "Ond nid yw gallu ysgwyd bys Yn gwneuthur neb yn William Rees." ESIAMPLAU I'R MYNEGFYS. 1. Yn y bedd acw y gorwedd Alaw Goch. 2. Dacw dŷ Solomon. 3. Gosododd yr arch elyn Angau mewn cadwynau. 4. "Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch." 7. " Edryched pob un pa wedd y mae yn goruwchadeiladu." 8. "Myfi biau dial, Myfi a dalaf, medd yr Arglwydd." 9. "Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Ti yw y dyn." 10. Fflachiad y fellten oleuodd y dyffryn. 11. Gwelwch.yr haul yn codi. 12. Gwelwch yr haul yn machlud. 13. Dacw seren Bethlehem; na, honacw ydyw Seren Bethlehem. 14. Edrychwch at eich aelwydydd, fy arglwyddi. 15. "Ystyriwch y dyn perffaith, edrychwch arno." Dylid cyfeirio y Mynefys yn uchel, neu isel, neu ganolog; yn fwynaidd, neu chwyrn, &c., yn ol natur y syniad a fynegir ar y pryd. 4.-Gwersi Darluniadol. Gyda gofal a sylw manwl, gellir canfod symudiadau y breichiau a'r dwylaw yn y darluniau canlynol, o un syniad i'r llall. Os na ellir cysylltu y symudiadau â'u gilydd, nes eu gwneuthur yn un mynegiant cyfan, ni bydd y wers wedi ei dysgu yn gyflawn. "Heb fraw nac amheuaeth Mae'r milwr diddychryn, Pan yma mae'r famwlad, Ac acw mae'r gelyn. Un weddi i'r nen, A gweled ein baner yn chwifio uwchben : Tafler y wain ymaith. Rholiwch yn mlaen fel taranfollt ddychrynllyd, Neu methwn ddychwelyd." [NODIAD.--Trwy garedigrwydd John C. Buckbee and Co., Chicago, cefais ganiatad i adlunio y cuts i'r llyfr hwn o lyfr y Proff. Bacon, lle y gellir canfod ymdriniaeth helaethach ar Ystumiau na'r hyn geir yma.- T. C. E.] 11 7.-Heb fraw nac amheuaeth mae'r milwr diddychryn, 8.-Pan yma mae'r famwlad, 11 9.-Ac acw mae'r gelyn. 10.-Un trem ar yr huan, |