|f :— │f, : — │ta:——:— 't, :— |-:— \d : | d, : Cydnabyddir hon yn un o'r gwersi mwyaf cyflawn o elfenau dadblygiad lleisiol. Os gofalir am anadlu yn ol y cyfarwyddiadau, ac amrywio yr amser a'r cyweirnod, nes lluosogi'r wers i nifer anmhenodol, ni all na ddel daioni buan ac amlwg iawn i'r efrydydd. Mae genym luaws o esiamplau o leisiau wedi eu gwella-tebyg i ailenedigaeth leisiol-trwy yr ymarferion a gymeradwyir yma. RHAN II. MYNEGIANT (EXPRESSION). OFER yw darllen a siarad os na throsglwyddir yn gywir ac effeithiol y meddylddrych yn gyflawn. Dylai yr un argraff gael ei wneyd ar y gwrandawr wrth wrando y darlleniad neu y traethiad ag sydd wedi ei wneyd ar y darllenwr neu y siaradwr wrth barotoi ei waith. Mae Mynegiant perffaith yn cynwys priodoldeb Pwyslais, Cywair, Amser, Grym, Gorphwysiant. 1.-Dwyslais. Amrywiaeth pwyslais ar eiriau sydd yn gosod allan brydferthwch brawddegau, fel y gwna cywirdeb acen ar sillau. O bob atgasrwydd darllenyddol, y mwyaf gwrthun yw darlleniad undonol... Newidir y pwyslais o un gair i'r llall gair i'r llall yn ol y cyfnewidiad a amcenir ddangos yn y syniad a amlygir. Er engraifft:"Mae efe mewn oedran, gofynwch iddo ef." Gellir gosod y pwyslais i ddynodi ei fod ef mewn oedran; neu ei fod ef mewn oedran; neu ei fod ef mewn oedran, gofynwch iddo ef; neu ei fod ef mewn oedran, gofynwch iddo ef, &c., &c. a Anmhriodol ᎩᎳ i athraw nac awdwr ffurfio rhes o bwysleisiadau ar eiriau mewn adnodau a darnau adroddiadol darlleniadol, a allant fod yn rheol anffaeledig i'r myfyrwyr. Gwell yw i bob darllenwr, adroddwr, datganwr, a siaradwr, yn nghyntaf oll, cyn agor ei enau yn gyhoeddus, i astudio y darn yn drwyadl, a bod yn hollol gyfarwydd â'i deithi, ac yn benderfynol argyhoeddiadol ei fod yn deall y pwnc. Wedi hyny, os rhoddir chwareu teg i natur, bydd y pwyslais yn sicr o fod yn gywir. Nid oes drafferth o gwbl i gael pwysleisiad cywir yn y teulu, yn ymddiddanion y plant, ar faterion sydd o fewn cylch eu gwybodaeth. Mae John a Mary yn newid y pwyslais i'w le priodol bob tro y gofynant am ffafr gan eu tad neu eu mam. A phe byddai John a Mary yn gallu cadw eu naturioldeb wedi iddynt dyfu, a dechreu cymeryd rhan gyhoeddus yn symudiadau yr oes, buasent yn ddarllenwyr a siaradwyr cywir ac effeithiol. Nid yw y darllenwr yn gyfrifol am argyhoeddiad ei wrandawyr, ond y mae yn gyfrifol am egluro y meddylddrych sydd yn y geiriau, fel y deallo pob un a wrandawo, oddieithr ei fod yn amddifad o gyneddfau i ddeall. GWERS YMARFEROL. 1. Pwy wnaeth eich dillad chwi? 2. Mr. Brethyn Glas wnaeth ran o fy nillad i. 7. Rhaid rhoi pob pechod dan droed. 8. Hen wlad y menyg gwynion yw Cymru lan. 9. "Daeth dydd mawr ei ddigter Ef, a phwy a ddichon sefyll ?" 10. "Duwioldeb sydd fuddiol i bob peth." 11. Byddai yn well genyf fod yn ddyn blaenaf yn y pentref bychan hwn, na bod yn ail yn Rhufain. 12. "Ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn." Wrth symud y pwyslais o un gair i'r llall, gellir gwneuthur y wers hon yn ddyddorol, ac yn arddangosiad o bwysigrwydd iawn-leoliad y pwysleisiad er mynegi yr hyn amcenir ddangos fel gwir feddwl y geiriau. Os bwriadir i'r pwyslais fod yn awgrymiadol o syniad anorphenedig, neu ymofyniadol, neu wawdus a gwatwarus, &c., rhaid i'r oslef derfynol fod ar yr esgynsain; ond os yn atebiad, neu yn osodiad, neu yn ddatganiad syml, ymddiddanol, &c., goslef ddisgynol yw y priodol. Wrth oslef esgynol golygir y llais yn codi ar y sill olaf; wrth oslef ddisgynol, y llais yn disgyn ar y sill olaf. Er engraifft: 1. Anorphenedig. "Mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn angenion, mewn cyfyngderau, mewn carcharau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn hir-ymaros," &c. 2. Ymofyniadol.-" Ai Myfi yr ydych yn ei geisio ?" "Pwy yw Hwn, sydd yn goch ei ddillad ?" "Ai ceidwad fy mrawd wyf fi ?" 3. Gwatwarus.- "Gwaeddwch yn uwch; dichon ei fod yn cysgu, neu ei fod allan yn rhyfela, canys duw yw efe !" O ïe, rhoddwch y sedd flaenaf iddo ef! Mae stol droed yn ddigon da i mi! 4. Atebiad.-Ië, siwr, myfi yw efe. Nage, nage. 5. Gosodiadol." Am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifenu atoch." "Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd." "Y mae y tlodion genych bob amser." 6. Ymddiddanol syml. "Yr oedd gan ryw wr ddau fab.". "Ac efe a gymerodd ei daith i wlad bell." "Mae'r iachawdwriaeth fel y môr." Er mwyn perffeithio y gallu i bwysleisio yn briodol, dylid arfer llithriadau y llafariaid, yn ol "Cynllun o Lithriadau " yn Rhan I. 2.-Cywair. Mae y sain uchel, ac isel, a chanolog, mewn syniadau a drosir trwy ddarllen a siarad, mor bwysig ag ydyw mewn cerddoriaeth. Mae gallu symud yn felodaidd o un cywair i'r llall yn ychwanegu llawer at werth yr hyn a ddarllenir; ac os na wneir hyny, bydd yn anmhosibl gwneyd cyfiawnder â'r awdwyr a gynrychiolir. Mae yr ymadroddion canlynol a welir yn y Salmau yn awgrymu cywair uchel :-... "Gwaeddais ar yr Arglwydd." "Llefais arnat, O Arglwydd." "Llawen-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaear," &c. Mae ymadroddion fel y canlynol yn gofyn am gywair isel: : "A Rebeccah a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y'th fendithiwyf ger bron yr Arglwydd cyn fy marw. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynwyf i ti. Dos yn awr i'r praidd, a chymer i mi oddiyno ddau fyn gafr, a myfi a'i gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gar efe. A thi a'i dygi i'th dad, fel ybwytao, ac y'th fendithio cyn ei farw.” "O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi bechadur." Mae y dyfyniad blaenaf yn awgrymu cyfrinach ddirgelaidd rhwng Rebeccah a Jacob, fel na chlywai Isaac. Mae yr olaf yn arddangos teimlad ofnus a thra gostyngedig: "Ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r nef." Rhwng y ddau eithafoedd cywair saif y canolog, yr hwn sydd yn cyfateb i gywair cyffredin ymddiddanol pob un. Nis gellir penderfynu ar unrhyw sain neillduol i fod yn gywair safonol i bawb, oherwydd y mae cymaint o amrywiaeth rhywogaethau leisiau yn y byd, ac nid oes ohonynt yn aflafar os defnyddir ef yn ol rheol ei natur ei hun. un 1 |